Ffesant a Ffigys o’r Ffwrn

  • Amser paratoi 2 awr 20 mun
  • Amser coginio 40 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

X 4 brest ffesant

X 1 bwlb garlleg cyfan

X 3 llwy fwrdd o finegr sieri

X 8 sbrigyn o deim

X 2 nionyn coch

X 6 ffigys ffres

X 12 o olifau duon wedi’u haneru a heb gerrig

X 3 llwy fwrdd o olew hadau rêp Blodyn Aur

Dull

I ddechrau

Rhowch y ffesantod mewn marinâd drwy wasgu 2 glof garlleg a’u cymysgu â llwy fwrdd o finegr ac ychydig o ddail teim. Rhowch halen a phupur ar y brestiau a gadewch nhw yn y marinâd am ychydig oriau neu dros nos.

Yn syml

Cynheswch y popty i 200C/400F/Nwy 6 (ffan 180C) a rhowch weddill y clofs garlleg cyfan yn eu croen mewn tun dwfn, mawr. Pliciwch a thorri’r nionod yn 8 darn a’u hychwanegu at y garlleg. Yna torrwch y ffigys yn eu hanner a’u hychwanegu at y tun ynghyd â gweddill y teim.

Nawr

Arllwyswch yr olew dros y cyfan a throi’r llysiau a’r ffigys gyda’ch dwylo cyn ychwanegu digon o halen a phupur ac arllwys gweddill y finegr ac unrhyw farinâd dros bopeth cyn eu rhostio am 20 munud.

Wrth aros

Cynheswch badell ffrio dros wres uchel a brownio’r brestiau ffesantod wedi’u marinadu yn gyflym ar y ddwy ochr cyn eu trosglwyddo i’r tun popty am 20 munud ar ôl i’r nionod rostio a gwasgaru’r olifau dros y cyfan. Rhostiwch y cyfan am 15-20 munud arall nes bod y brestiau wedi coginio.

I weini

Tynnwch y tun o’r popty a’i weini’n syth gyda thatws wedi crimpio a salad gwyrdd.