Hwyaden wyllt gydag afal wedi’i garameleiddio a seidr Cymreig

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

X 2 brest hwyaden wyllt

X darn o fenyn hallt Cymreig

X 1 llwy fwrdd o siwgr brown

X 1 afal

X 1 llwy fwrdd o finegr seidr

X 150ml seidr Cymreig

Dull

I ddechrau

Rhowch halen a phupur ar ddwy ochr y frest yna rhowch y frest ar ei chroen mewn padell ffrio oer dros wres isel am ychydig funudau ac yna codwch y gwres yn raddol i ryddhau’r braster o’r croen. Coginiwch ochr y frest am tua 6 munud ac unwaith mae’r frest wedi brownio a chrispio yna trowch hi a’i choginio am ychydig funudau eto.

Yn syml

Arllwyswch y rhan fwyaf o’r braster o’r badell ffrio (gallwch gadw’r braster a’i ddefnyddio ar gyfer rhostio tatws yn nes ymlaen), ychwanegwch ddarn o fenyn a’r siwgr a’i droi nes bod y siwgr wedi toddi ac yna ychwanegu’r finegr seidr. Torrwch yr afalau’n 8 darn a’u hychwanegu at y caramel a’u coginio am ychydig funudau bob ochr cyn arllwys y seidr atynt. Codwch nhw i ferwi a’u coginio am ychydig funudau nes bod y saws wedi lleihau. Os yw’n well gennych frest waedlyd i ganolig yna tynnwch yr hwyaden a’i chadw’n gynnes wrth i chi wneud y saws.

I weini

Gadewch yr hwyaden i orffwys cyn ei cherfio a’i gweini gyda’r saws ar blatiau cynnes gyda bresych coch sbeislyd a thatws wedi’u ffrio’n ysgafn.