Pei Petris a seleriac

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 55 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

X 8 brest petrisen

X 4 llwy fwrdd o flawd plaen

X 2 llwy fwrdd o olew hadau rêp Blodyn Aur

X 1 nionyn

X 2 clof garlleg

X 300g o seleriac

X 2 foronen

X 2 llwy fwrdd o bersli ffres wedi’i dorri

X 200ml o win gwyn Cymreig

X 350ml o stoc cyw iâr

X 375g o grwst pwff parod

X 1 wy

Dull

I ddechrau

Cynheswch y popty i 200C/400F/Nwy 6 (ffan 180C)

Yn syml

Torrwch y petris yn ddarnau 2.5cm. Ychwanegwch halen a phupur at y blawd a rhoi’r cig ynddo nes ei fod wedi’i orchuddio’n llwyr. Cadwch unrhyw flawd dros ben yna cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr a browniwch bob ochr y cig, tynnwch ef o’r badell a’i arllwys i ddysgl pei.

Nawr

Pliciwch a thorri’r nionyn a’r garlleg yna eu coginio yn y sosban gydag ychydig mwy o olew os oes angen, nes ei fod yn fwy meddal. Pliciwch a thorri’r seleriac a’r moron yn ddarnau 2cm a’u coginio dros wres canolig am 5 munud yna ychwanegwch y blawd a gadwyd yn ôl a’i droi am 2 funud.

Yna

Arllwyswch y stoc, y gwin a’r persli wedi’u torri a’u codi i ferwi. Ychwanegwch halen a phupur, gostwng y gwres a gadael iddo goginio am 10 munud, yna arllwyswch y cyfan dros y cig yn y ddysgl pei.

Nawr

Rholiwch y crwst i faint y ddysgl pei a’i roi ar ben y cig a’r llysiau. Marciwch y pei gyda chyllell finiog a’i frwsio gydag wy wedi’i guro. Coginiwch y pei yn y popty am 30 munud nes bod y crwst yn euraid.

I weini

Tynnwch ef o’r popty a’i dorri’n 4 darn a’i weini gyda thatws hufennog a llysiau gwyrdd wedi’u stemio.