Parseli Petris gyda seidr Cymreig

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 40 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

X 2 betrisen yn barod i’w rhostio

X 3 sleisen o Ham Caerfyrddin neu ham wedi’i halltu arall

X 1 llwy fwrdd o olew hadau rêp Blodyn Aur

X 1 nionyn

X 2 sbrigyn o deim

X 10g menyn hallt

X 200ml seidr Cymreig

X 1 llwy fwrdd o geuled Afal a Sinamon Welsh Lady

Dull

I ddechrau

Cynheswch y popty i 200C/400F/Nwy 6 (ffan 180C)

Yn syml

Pliciwch a thorri’r nionyn ac yna cynhesu’r olew mewn tun rhostio bach a choginio’r nionyn am 5-10 munud nes bydd yn dechrau mynd yn feddal. Tynnwch y tun o’r gwres a rhowch ychydig o’r nionod i mewn i geudod yr adar ynghyd â sbrigyn o deim yr un a thalp o fenyn, yna symudwch y gweddill i ganol y tun.

Nawr

Lapiwch yr adar yn Ham Caerfyrddin ac yna ychwanegu halen a phupur a’u gosod ar ben y nionod. Arllwyswch hanner y seidr dros y cyfan a’u rhostio am 15 munud ac yna gostwng gwres y popty i 180C/375F/Nwy 5 (ffan 160C). Gorchuddiwch yr adar â ffoil a’u coginio am 10 munud arall. Tynnwch nhw o’r popty a chodi’r adar ar blât cynnes i orffwys.

Yna

Arllwyswch unrhyw fraster dros ben o’r tun a’i roi mewn gwres canolig. Ychwanegwch weddill y seidr a chrafu gwaelod y tun i ryddhau’r sudd sydd wedi carameleiddio. Berwch nes ei fod wedi’i haneru yna ychwanegwch y ceuled sinamon afal a digon o halen a phupur. Defnyddiwch ridyll i arllwys y cynnwys i jwg gynnes.

I weini

Rhowch y betrisen gyfan ar bob plât cinio cynnes a’i gweini gyda’r sudd seidr, llysiau tymhorol a thatws rhost.