Cawl Haidd Gwyn a Ffesant

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 1 awr 10 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

X 1 ffesant sy’n barod i’w rhostio (800-900g)

X 10g o fenyn hallt

X 2 llwy fwrdd o olew llysiau

X 1 nionyn mawr

X 2 clof garlleg

X 2 ffon seleri

X 2 foronen

X 1 ddeilen llawryf (bay leaf)

X 6 sbrigyn o deim

100g o haidd gwyn

X 1 litr o stoc cyw iâr

X ½ llwy de o nytmeg wedi gratio

X 150ml o sieri sych

X persli ffresh wedi’i dorri i weini

Dull

I ddechrau

Pliciwch a thorri’r nionyn, garlleg, seleri, a moron yn ddarnau 2cm

Yn syml

Toddwch y menyn ac ychwanegwch yr olew mewn sosban fawr a choginio’r llysiau dros wres canolig am tua 10 munud nes eu bod yn dechrau troi’n frown. Yna rhowch y ffesant gyfan ar ben y llysiau a’u gorchuddio â’r stoc, y teim a’r ddeilen llawryf.

Nawr

Rhowch halen a phupur dros y cyfan, gorchuddiwch â chaead a chodi popeth i ferwi yna gostwng y gwres nes bod y cawl yn mudferwi. Ar ôl 15 munud arllwyswch yr haidd gwyn atynt a pharhau i goginio’r cyfan am 45 munud arall nes bod y ffesant wedi’i choginio’n iawn.

Yna

Tynnwch yr aderyn o’r cawl a gadewch iddo oeri ychydig cyn tynnu’r cig oddi ar yr asgwrn.

Nesaf

Ychwanegwch y sieri at y cawl a rhowch y ffesant wedi’i choginio yn ôl yn y pot a chodi’r cyfan i ferwi.

I weini

Blaswch y cawl i weld a oes angen ychwanegu halen a phupur a’i weini mewn powlenni cynnes gyda phersli ffres a bara crystiog.