Cyri iogwrt ffesant

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

X 4 brest ffesant

200G o iogwrt Llaeth y Llan neu Rachel’s

1 llwy de o garam masala

½ llwy de o dyrmerig

½ llwy de o bowdr tsili

2 clof garlleg

X ½ sudd lemon

X 2 llwy fwrdd o olew llysiau

X 1 llond llwy de o hadau cwmin

X 3 tomatos ffres

X coriander ffres

Dull

I ddechrau

Cymysgwch yr iogwrt, y sbeisys, y sudd lemwn a’r garlleg wedi’u plicio a’u torri ac ychwanegu halen a phupur.

Yn syml

Torrwch y frest ffesant yn ddarnau 3cm a’u hychwanegu at y gymysgedd iogwrt, trowch nhw nes eu bod wedi’u gorchuddio’n dda a’u gadael mewn marinâd am awr neu dros nos.

Nawr

Torrwch y tomatos yn sleisys tenau yna cynheswch yr olew mewn sosban ac ychwanegwch yr hadau cwmin ac unwaith y byddant yn dechrau hisian ychwanegwch y tomatos a’u coginio dros wres canolig am 5 munud nes eu bod yn dechrau mynd yn feddal.

Yna

Ychwanegwch y ffesant wedi’i marinadu ac unrhyw farinâd dros ben, cymysgwch y cyfan yn dda ac yna eu codi i ferwi. Gorchuddiwch y cyfan a’i goginio dros wres canolig am 10 munud nes bydd y ffesant wedi’i choginio’n iawn. Os yw’r saws yn rhy drwchus ychwanegwch ychydig o ddŵr berwedig. Blaswch y bwyd i weld a oes angen ychwanegu halen a phupur.

I weini

Rhowch goriander ffres wedi’i dorri ar ei ben a’i weini gyda reis neu fara naan.