Caserol cig carw a madarch gwyllt

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 2 awr 20 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

X 1kg o gig carw wedi’i dorri’n giwbiau

X 1/2 potel o win coch (325ml)

X 1 llwy fwrdd o aeron meryw wedi’u gwasgu

X 1 llwy fwrdd o goriander mâl

X 4 ddeilen llawryf (bay leaves)

X 3 sbrigyn o deim

X 3 sbrigyn o rosmari

X 20g madarch porcini sych

X 2 llwy fwrdd o flawd plaen

X 2 llwy fwrdd o olew hadau rêp Blodyn Aur

X 4 sleisen o gig moch brith wedi’i gochi

X 8 sibols, wedi’u plicio a’u chwarteru

X 200g o fadarch castan, wedi’u chwarteru

X 1 llwy fwrdd o jeli cyrains cochion

Dull

I ddechrau

Rhowch y cig carw mewn marinad mewn dysgl wedi’i gorchuddio ac arllwys y gwin, y sbeisys a’r perlysiau drosto. Gadewch nhw yn yr oergell am ychydig oriau neu dros nos os oes modd.

Y diwrnod wedyn

Arllwyswch tua 150ml o ddŵr berwedig dros y madarch sych a gadewch iddynt socian am 20 munud yna eu draenio (gan gadw’r dŵr) a thorri’r madarch. Draeniwch y cig carw, ei sychu gyda phapur cegin a’u gorchuddio gyda’r blawd, yr halen a phupur.

Yna

Torrwch y cig moch brith yn giwbiau a’u rhoi mewn padell ffrio ar wahân dros wres canolig. Coginiwch y cig moch nes eu bod wedi crispio a’r braster wedi’i ryddhau, yna ychwanegwch y sibols wedi’u chwarteru a’u coginio am 5 munud.

Yn syml

Cynheswch y popty i 170C/325F/Nwy 3 (ffan 150C). Cynheswch yr olew mewn dysgl addas ar gyfer y popty dros wres canolig a choginio’r cig carw mewn sypiau nes ei fod wedi brownio bob ochr ac yna eu rhoi ar blât. Tynnwch y sglein o’r sosban gyda’r gwin a’r perlysiau o’r marinad gan grafu unrhyw ddarnau o waelod y ddysgl. Yna ychwanegwch y cig carw wedi’i goginio, y cig moch a’r sibols, y madarch sych a’r dŵr ac ychwanegu’r jeli cyrains cochion.  Gorchuddiwch y cyfan â chaead a’u coginio yn y popty am awr yna ychwanegwch y madarch castan a’u dychwelyd i’r popty i goginio am 45 munud arall nes bod y cig yn frau. Gall yr amser coginio amrywio yn dibynnu ar oedran yr anifail a pha mor hir y mae wedi bod yn hongian.

I weini

Gweinwch gyda thatws stwnsh ac ychydig o nytmeg wedi gratio.