Ragu cig carw cnau castan gyda phasta

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 2 awr 30 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

X 1cg ysgwydd cig carw diasgwrn wedi’i thorri’n fân (darnau tua 1cm)

X 3 llwy fwrdd olew hadau rêp Blodyn Aur

X 200g pancetta mwg

X 1 nionyn

X 2 ffon seleri

X 1 foronen

X 4 ewin garlleg

X 1 ddeilen llawryf

X 1 llwy fwrdd rhosmari ffres mân

X 1 llwy fwrdd teim ffres mân

X 3 llwy fwrdd purée tomato

X 1 llwy fwrdd sbeis cymysg

X 500ml gwin coch

X 500ml llaeth

X 200g cnau castan cyfan wedi’u coginio

X 500g tagliatelle

Dull

I ddechrau

Gwnewch y ragu drwy gynhesu dysgl caserol trwm dros wres cymedrol. Ychwanegwch 2 lwy fwrdd o olew a rhowch bupur a halen ar y cig carw ac yna’i frownio. Tynnwch y cig o’r caserol a’i osod o’r neilltu wrth i chi goginio’r llysiau.

Yn syml

Piliwch a thorrwch y nionod/winwns, moronen, seleri a garlleg. Yna rhowch weddill yr olew yn y caserol, ychwanegwch y pancetta a’i goginio am 5 munud nes bydd yn dechrau brownio a chrisbio a’r braster yn llifo. Yna ychwanegwch y llysiau a’u coginio dros wres isel gyda’r perlysiau, sbeis a’r purée tomato am ryw 15 munud nes eu bod yn meddalu. Yna ychwanegwch y cig carw wedi’i frownio a chymysgwch y cyfan yn dda.  Ychwanegwch y gwin a’r llaeth a chodwch y gwres nes bydd y ragu yn ffrwtian, yna coginiwch am 2 awr nes bydd y cig yn frau a’r saws wedi lleihau a thewhau.

Nawr

Torrwch y cnau castan yn fras a’u hychwanegu at y cig carw rhyw 30 munud cyn y diwedd a’i flasu i weld oes angen pupur a halen.

Yn y cyfamser

Coginiwch y pasta mewn digon o ddŵr wedi’i halltu nes ei fod yn al dente, yna draeniwch a’i gymysgu gyda’r ragu wedi’i goginio cyn ei weini ar ddysglau cynnes. Gallwch roi parmesan wedi gratio ar ben y cyfan.