Pastai Cig Carw gyda rosti seleriac

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 1 awr 55 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

X 1 nionyn

X 2 foronen

X 2 ffon seleri

X 2 lwy fwrdd olew hadau rêp Blodyn Aur

X 1cg briwgig carw

X 350ml gwin coch

X 500g passata

X 2 ddeilen llawryf

X 2 lwy fwrdd purée tomato

X 1 llwy fwrdd teim ffres mân

X ½ seleriac (tua 350g)

X 2 daten fawr (tua 400g)

X 50g menyn Cymreig wedi’i doddi

X 1 llwy fwrdd saets ffres mân

Dull

I ddechrau

Gwnewch y ragu drwy bilio a thorri’r nionod, moron a’r seleri. Yna cynhesu 1 llwy fwrdd o olew mewn sosban fawr a choginio’r llysiau dros wres cymedrol nes eu bod yn feddal ac yn dechrau troi’u lliw. Rhowch y llysiau ar blât ac yna ychwanegwch lwy fwrdd arall o olew a brownio’r cig carw drosto – efallai y bydd rhaid gwneud hyn mewn dau swp. Tywalltwch y llysiau’n ôl i’r badell gyda’r cig carw ac ychwanegwch y gwin, passata, 200ml o ddŵr, dail llawryf, purée tomato, teim a phupur a halen.

Yn syml

Gadewch y cig i ffrwtian ar wres canolig i isel am ryw awr nes ei fod wedi lleihau a thewhau. Yn y cyfamser piliwch a gratiwch y tatws a’r seleriac i mewn i bowlen fawr. Ychwanegwch bupur a halen a’r menyn wedi’i doddi a chymysgwch y saets mân i mewn.

Nawr

Codwch wres y popty i 190C/374F/Nwy 5 (170C ffan). Tywalltwch y cymysgedd cig carw i ddysgl bastai a rhowch y rosti seleriac a thatws ar ei ben a’u coginio am 35-40 munud nes bod y topin wedi’i goginio ac yn euraidd.

I weini

Tynnwch o’r popty a’i weini gyda llysiau gwyrdd tymhorol.