Canllaw I Helgig Cymreig

Ion 24, 2023

Ers ei lansio yn y digwyddiad amaethyddol blynyddol mwyaf yng nghalendr Cymru y llynedd, mae’r Canllaw i Helgig Cymreig wedi bod yn hynod boblogaidd ac wedi’i ddarllen gan filoedd o bobl sy’n frwd dros gefn gwlad a phobl sy’n hoff o fwyd.

Gyda nifer o awgrymiadau ac argymhellion ar baratoi, coginio a bwyta helgig, mae’r canllaw yn cynnig ffyrdd hawdd o fwynhau helgig Cymreig a phopeth sydd ganddo i’w gynnig.

Yn llawn cyfweliadau â chogyddion gwych ac arbenigwyr ynglŷn â helgig, mae’r rhagair wedi’i ysgrifennu gan y cogydd o Gymro sydd â Seren Michelin, Hywel Griffith o’r Beach House, Oxwich.

Mae’r llyfr hefyd yn rhestru 50 o leoliadau yng Nghymru i ddod o hyd i helgig ar y fwydlen yn ogystal â map o ble i gael gafael ar helgig a’i brynu yng Nghymru.

Mae’r ‘Welsh Game Guide’ yn rhad ac am ddim i’w fwynhau a gellir ei weld yma.