Pam

Pam dewis bwyta a mwynhau helgig?

Yn wahanol i gig wedi’i ffermio, mae helgig yn wyllt ac yn naturiol, ac yn amlach mae modd ei olrhain yn lleol. Mae’n hynod hyblyg, yn isel mewn braster a cholesterol ac yn uchel mewn protein, felly mae’r cig cynaliadwy hwn yn cael ei ystyried yn opsiwn iachach a maethlon.

 

Mae’n rhyfeddol o hyblyg

Gall serennu mewn nifer o ryseitiau hynod flasus, o gyris i gaserolau, prydau pasta i brydau rhost mewn potyn a phasteiod, mae’n hawdd ei ddefnyddio fel dewis amgen yn eich hoff ryseitiau sy’n iachach ac â llai o fraster.

O ran prynu a choginio gyda helgig, bydd gan eich cigydd lleol a’ch archfarchnad amrywiaeth o doriadau parod o helgig ar gael, gyda rhai cigyddion yn gallu dod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch yn lleol, os nad yw ar gael eisoes. Dychmygwch wybod yn union o ble daeth swper heno?

Mae llawer o adwerthwyr ar-lein arbenigol yn cynnig helgig gyda sicrwydd ansawdd sy’n barod i’w roi yn y ffwrn hefyd – ac os ydych chi’n gogydd profiadol, beth am roi cynnig ar baratoi eich helgig eich hun?

Gall helgig gael ei rewi hefyd sy’n golygu y gellir ei fwynhau y tu hwnt i’r tymor helgig, felly p’un a ydych am roi cynnig ar rywbeth gwahanol gyda’ch cig a llysiau y Pasg hwn neu roi gwedd newydd i’ch barbeciw haf, nid dim ond ar gyfer yr hydref a’r gaeaf mae helgig.

Nid yw bwyta’n iach erioed wedi blasu cystal.

Ynghyd â’i hyblygrwydd, mae helgig yn cael ei ystyried yn ddewis iachach yn lle nifer o gigoedd; gan ei fod yn wyllt ac yn faethol, mae’n ffynhonnell wych o brotein, fitaminau a mwynau ac mae’n cynnwys llai o fraster dirlawn nag anifeiliaid fferm.

Yn uchel mewn asidau brasterog Omega-3 (y math da o fraster) mae’r cig isel mewn calorïau hwn yn deillio o anifeiliaid sy’n crwydro’n rhydd, yn bwydo ar lystyfiant naturiol ac yn byw’n rhydd o hormonau a gwrthfiotigau sy’n golygu mai’r hyn a welwch yw’r hyn a gewch; blas sy’n bendant yn naturiol ac yn dda i chi.

Awydd rhoi cynnig ar helgig?

Bydd ein ryseitiau hawdd eu dilyn yn dangos i chi pa mor ddi-drafferth y gall coginio gyda helgig fod. Chewch chi mo’ch siomi, mae hynny’n sicr.

Llyfryn The Welsh Game Guide

Dysgwch fwy am fanteision bwyta helgig Cymreig, ble i ddod o hyd iddo a sut i’w goginio.