Hywel Griffith cooks with game at Aim to sustain Senedd event

Manteision helgig yn cael eu harddangos mewn digwyddiad yn y Senedd

Tach 25, 2023

Daeth Aelodau’r Senedd, grwpiau saethu a chogyddion ynghyd yn y Senedd ar gyfer gwledd gyda’r nos i ddathlu helgig Cymreig. Cafodd y digwyddiad a drefnwyd gan y partneriaid Aim to Sustain a Helgig Cymru ei noddi’n garedig gan Samuel Kurtz AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro a Llŷr Gruffydd AS Gogledd Cymru. Bu cogydd gwadd y noson, Hywel Griffith o The Beach House yn Oxwich, sydd â seren Michelin, yn arddangos ei ddawn goginio gan ddefnyddio helgig Cymreig ochr yn ochr â’r cyflwynydd galluog iawn Mr Rhys Llywelyn.