Ffesant Rhost

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 18 mun
  • Ar gyfer 5+

Bydd angen

X 2 ffesant sy’n barod i’w rhostio (800-900g)

X 20g o fenyn hallt

X 4 sleisen o gig moch brith wedi’i fygu neu pancetta

X 1 genhinen fawr

X 3 ffon seleri

X 2 foronen

X 2 ddeilen llawryf (bay leaves)

X 6 sbrigyn o deim

X 350ml o stoc cyw iâr

X 150ml o win gwyn Cymreig sych

Dull

I ddechrau

Cynheswch y popty i 180C/350F/Nwy 4 (ffan 160C)

Yn syml

Paratowch y llysiau drwy eu plicio a’u torri i ddarnau maint 3cm yn fras a thorri’r cig moch yn ddarnau maint tebyg.

Nawr

Mewn dysgl addas ar gyfer y popty (digon mawr i ddal y ddau aderyn), toddwch hanner y menyn dros wres canolig i uchel a brownio’r ffesantod ar bob ochr am tua 8-10 munud, yna eu tynnu a’u rhoi i un ochr.

Yna

Ychwanegwch weddill y menyn yna’r cig moch, y seleri a’r moron am 10 munud nes eu bod yn dechrau mynd yn feddal, yna ychwanegu’r cennin a throi popeth yn dda a’u tynnu o’r gwres Gosodwch y ffesantod ar ben y llysiau a’r cig moch ac ychwanegu halen a phupur.

Nesaf

Arllwyswch y stoc, y gwin a’r perlysiau drostynt a rhowch gaead ar ben y ddysgl a rhostio’r cyfan am 1 awr nes bod yr aderyn wedi’i goginio’n iawn. Tynnwch y cyfan o’r popty a gadewch iddo orffwys am 10 munud cyn gweini

I weini

Tynnwch y ffesantod o’r ddysgl a’u cerfio a’u gweini gyda’r llysiau a’r saws ynghyd â thatws stwnsh.