Hwyaden wyllt rost gyda sinsir a clementin

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 30 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

X 2 hwyaden wyllt – parod ar gyfer y popty

X 3 sibols

X 4 clementin neu 2 oren

X 2 ddeilen llawryf (bay leaves)

X 3 sbrigyn o deim

X 4 sleisen o gig moch brith

X 100ml gwin sinsir

X 1 llwy de o jam sinsir Welsh Lady

Dull

I ddechrau

Cynheswch y popty i 200C/400F/Nwy 6 (ffan 180C). Priciwch y croen a rhoi halen a phupur ar y ddau aderyn yna eu gorchuddio â’r cig moch brith. Torrwch y clementin yn eu hanner, gwasgwch y sudd dros yr adar a rhowch hanner i mewn i’r ceudod ynghyd â’r dail llawryf a’r teim. Gadewch weddill y clementin yn y tun rhostio. Pliciwch a thorri’r sibols yn eu hanner a’u hychwanegu at y ddysgl. Arllwyswch tua 150ml o ddŵr i’r badell a’u rhostio am 35-45 munud gan dynnu’r braster ohono’n rheolaidd.

Yn syml

Tynnwch y cyfan o’r popty a gadewch nhw i orffwys, gyda gorchudd ar blât gweini cynnes ynghyd â’r sibols wedi’u rhostio. Tynnwch unrhyw fraster o’r sudd rhostio, tynnwch y perlysiau a’r clementin. Rhowch y sosban dros wres canolig yna ychwanegu sudd o ddau clementin arall, y gwin sinsir a’r jam. Codwch y cyfan i ferwi yna gostwng y gwres a’i fudferwi nes ei fod wedi lleihau a thewychu ychydig. Blaswch y cyfan, ac ychwanegu halen a phupur os oes angen.

I weini

Cerfiwch yr adar a’u gweini ar blatiau cynnes gyda’r saws ynghyd â thatws rhost a moron wedi’u sgleinio â mêl.