Ffesant Sbeislyd a pilaf nionyn

  • Amser paratoi 1 awr
  • Amser coginio 1 awr 5 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

X 4 brest ffesant

X sudd ½ lemon

X 4 clof garlleg

X 200g o reis basmati

X 3 nionyn

25 g o fenyn

X 3 llwy fwrdd o olew hadau rêp Blodyn Aur

X 15g o sbrigynnau teim

X 15g o lysiau’r gwewyr (dil) ffres

X 3 llwy de o bupur Jamaica

X 1 llwy de o sinamon

Dull

I ddechrau

Rhowch y ffesantod mewn marinâd drwy wasgu 2 glof garlleg a’u cymysgu gyda’r sudd lemon. Ychwanegwch halen a phupur a gosodwch y brestiau yn y gymysgedd hon am 30 munud ar dymheredd ystafell.

Yn syml

Pliciwch a sleisio’r nionyn yn denau a gwasgu gweddill y garlleg.  Toddwch y menyn a’r 2 llwy fwrdd o olew mewn sosban sauté fawr dros wres canolig i uchel ac ychwanegwch y nionod a’r garlleg. Coginiwch gan droi yn rheolaidd am 25 munud nes bod y nionod wedi carameleiddio a throi’n frown. Tynnwch y dail o’r teim a thorri llysiau’r gwewyr gan gynnwys y coesau yna ychwanegwch nhw at y nionod hanner ffordd drwy’r broses goginio.

Nawr

Golchwch y reis o dan ddŵr oer sy’n rhedeg nes bod y dŵr yn glir ac yna ychwanegwch ef at y nionod ynghyd â’r sbeisys, a’u troi’n dda. Yna ychwanegwch halen ac arllwys 425ml o ddŵr berwedig drosto. Trowch ef, ei orchuddio a’i adael i goginio ar wres isel am 30 munud nes bydd y reis wedi’i goginio ac yna tynnwch ef oddi ar y gwres.

Wrth aros

Tra mae’r reis yn coginio cynheswch y popty i 200C/400F/Nwy 6 (ffan 180C). Cynheswch un llwy fwrdd o olew mewn padell ffrio a browniwch y brestiau ffesantod ar y ddwy ochr, eu gorchuddio â ffoil cyn eu rhoi yn y popty i goginio am 10 munud arall. 

I weini

Arllwyswch y reis pilaf ar blât gweini cynnes gan roi’r ffesant ar ei ben. Gorffennwch gyda rhywfaint o sbrigynnau o lysiau’r gwewyr a gweini’r pryd gydag iogwrt naturiol.