Byrger cig carw gyda llugaeron, Perl Las a chig moch

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

4 byrger cig carw

2 lwy fwrdd olew

4 byns byrger

4 sleisen caws Perl Las

Dail letys

4 tafell cig moch cefn

4 llwy fwrdd relish llugaeron

Dull

I ddechrau

Cynheswch badell ffrio fawr neu radell, rhwbiwch yr olew dros y byrgers a’u sesno gyda halen môr a phupur yna coginiwch nhw yn y badell am 3 i 4 munud bob ochr nes eu bod wedi coginio drwyddynt. Ychwanegwch dafell o gaws at bob byrger a gorchuddiwch y badell gyda chaead i greu ychydig o stêm fel y bydd y caws yn toddi neu rhowch nhw o dan gril poeth i doddi.

Yn syml 

Griliwch y cig moch nes ei fod yn grimp a thostiwch y byns.

I weini

Taenwch relish llugaeron ar waelod pob bynsen ac yna ychwanegu ychydig o letys a rhoi’r byrger a’r caws ar ei ben. Ychwanegwch y cig moch, rhowch y fynsen ar ei ben a’i weini ar unwaith.