Hash ffesant, chorizo a cêl

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

4 brest ffesant heb y croen ac wedi’u torri’n giwbiau mân

150g chorizo wedi’i sleisio

1 genhinen wedi’i thorri’n gylchoedd

300g tatws wedi’u coginio a’u torri

4 wy

2 lond llaw cêl wedi’i dorri’n fân

2 ewin garlleg wedi’u malu

dail teim ffres

2 lwy fwrdd olew olewydd

talp o fenyn

1 llond llaw persli wedi’i dorri

saws Worcestershire

halen môr a phupur du

Dull

I ddechrau

Cynheswch yr olew olewydd mewn padell ffrio fawr ac ychwanegwch y chorizo. Ffriwch am 1 munud, yna ychwanegu’r genhinen a’i ffrio am 2 funud arall. Pan fydd y genhinen yn feddal a’r chorizo yn rhyddhau ei olewau, ychwanegwch y tatws, cêl, garlleg a theim. Sesnwch yn dda a ffriwch nes bod y tatws yn frown euraidd a’r cêl yn feddal.

Yn y cyfamser

Mewn padell arall, toddwch y menyn a ffrio’r brestiau ffesant wedi’u torri’n giwbiau mân dros wres cymedrol nes eu bod wedi coginio ond ychydig yn binc. Gadewch i orffwys am ychydig funudau ac yna eu hychwanegu i’r badell arall. Cymysgwch y persli wedi’i dorri i mewn a joch go dda o saws Worcestershire. Sesnwch at eich dant os oes angen.

I weini

Ffriwch neu potsiwch yr wyau a’u gweini ar ben yr hash.