Hwyaden wyllt rost gydag eirin ac orenau â sbeis

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 50 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

2 hwyaden wyllt yn barod i’w rhostio

2 lwy fwrdd olew had rêp

2 ddeilen llawryf

8 sbrigyn teim ffres

2 oren

2 winwnsyn coch, wedi’u plicio a’u torri’n 8 talp yr un

2 goeden anis

1 ffon sinamon

8 eirinen, heb y cerrig ac wedi’u haneru

15g menyn

Dull

I ddechrau

Rhowch halen a phupur ar yr hwyaid gwyllt a chynheswch yr olew mewn tun rhostio neu badell ffrio fawr dros wres canolig-uchel. Browniwch yr hwyaden wyllt ar bob ochr ac yna rhowch y sbeisys a’r perlysiau y tu mewn i geudod pob hwyaden wyllt ynghyd â rhai o’r winwns a’r menyn. Rhowch y gweddill yn y tun rhostio.

Yna

Tynnwch groen yr orenau gyda chyllell finiog a thynnwch sudd yr orenau. Arllwyswch sudd un oren dros y hwyaid gwyllt ac ychwanegwch wyneb croen yr oren i’r tun rhostio.

Yn syml

Cynheswch y popty i 180C/160C ffan/nwy 4 a rhostio’r hwyaid gwyllt am 15 munud. Ychwanegwch yr eirin i’r tun, gorchuddio’r cyfan â ffoil a’i ddychwelyd i’r popty am 20 munud arall nes bod y cig wedi’i goginio a’r frest yn binc.

Nawr

Tynnwch y cyfan allan o’r popty a rhowch yr hwyaden wyllt, yr eirin a’r winwns ar blât cynnes i orffwys tra byddwch yn paratoi’r saws. Rhowch y tun dros wres canolig, tynnwch unrhyw fraster ac ychwanegwch weddill y sudd oren. Sgleiniwch y tun trwy grafu’r holl weddillion a dod ag ef i’r berw a’i fudferwi nes ei fod wedi tewychu.

I weini 

Cerfiwch yr hwyaden wyllt, ei rhoi ar blât a’i gweini gyda’r winwns wedi’u rhostio, yr eirin a’r saws.