Salad colomen, oren a betys

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 10 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

8 brest colomen

1 llwy fwrdd olew had rêp

Talp o fenyn hallt

2 oren

4 betysen fach wedi’u coginio

120g berwr dŵr a dail cymysg

50g cnau pistachio wedi’u tostio

3 llwy fwrdd triog pomgranad neu finegr balsamig

2 lwy fwrdd hadau pomgranad

Dull

I ddechrau

Cynheswch badell ffrio drom dros wres canolig ac ychwanegwch yr olew a’r menyn. Unwaith y bydd y menyn wedi toddi, sesnwch y brestiau colomennod gyda halen a phupur a’u serio ar y ddwy ochr am 3 munud ar bob ochr. Tynnwch oddi ar y gwres a’u gadael i orffwys ar blât.

Yn y cyfamser

Crafwch wyneb croen yr oren yna ei blicio a’i dorri’n ddarnau gan gadw unrhyw sudd a thorrwch y betys yn ddarnau bach gan gadw unrhyw sudd.

Yn syml

Cerfiwch y golomen yn dafelli tenau unwaith y bydd wedi gorffwys am o leiaf 6 munud. Golchwch y dail a’u rhannu ar 4 plât gweini yna ychwanegwch yr orenau, betys a’r colomennod.

Yna

Dychwelwch y badell ffrio i’r gwres ac ychwanegwch unrhyw sudd oren a betys ynghyd â’r triog pomgranad neu’r balsamig a sgleiniwch y badell trwy ddod â’r sudd i fudferwi, a chrafwch waelod y badell i ryddhau unrhyw waddod.

I weini

Arllwyswch y dresin cynnes dros y salad yna gwasgarwch yr hadau pomgranad a’r cnau drosto a’i weini ar unwaith.