Selsig helgig, ffa a seidr mewn un potyn

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 50 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

8 selsigen helgig

3 llwy fwrdd olew had rêp

100g sialóts banana, wedi’u plicio a’u haneru ar eu hyd

3 ewin garlleg wedi’u sleisio

150g moron wedi’u sleisio

1 genhinen fawr, wedi’i golchi a’i sleisio

1 llwy fwrdd hadau ffenigl

2 ddeilen llawryf

500ml seidr sych

1 x 400g tun ffa gwyn, wedi’u draenio

Dull

I ddechrau

Cynheswch un llwy fwrdd o olew mewn dysgl caserol fawr dros wres canolig a choginiwch y selsig nes eu bod yn frown i gyd. Tynnwch nhw allan o’r badell a’u rhoi o’r neilltu.

Yna

Ychwanegwch weddill yr olew yna’r sialóts a’u ffrio am 5 munud nes bod y sialóts yn dechrau brownio. Ychwanegwch y garlleg a choginio am 2 funud arall. Ychwanegwch y moron a’r cennin a’u ffrio am 10 munud arall yna cymysgwch yr hadau ffenigl a’r dail llawryf ac arllwys y seidr dros y cyfan. Dewch â’r cyfan i’r berw am 3 munud ac yna ei leihau i fudferwi a dychwelyd y selsig gyda’r caead ymlaen.

Yn syml

Coginiwch am 20 munud yna ychwanegwch y ffa gwyn a choginio am 10 munud arall nes bod y llysiau i gyd wedi coginio ond yn dal yn eithaf cadarn. Ychwanegwch sesnin at eich dant.

I weini

Rhowch nhw mewn powlenni bas cynnes a’u gweini gyda thatws stwnsh neu fara crystiog.