Sgalop Ffesant Crensiog

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 8 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

4 brest ffesant

4 llwy fwrdd blawd plaen

2 wy

120g briwsion bara sych

1 llwy fwrdd teim ffres wedi’i dorri

50g menyn

Croen hanner lemon

Dull

I ddechrau

Paratowch y brestiau trwy dynnu unrhyw groen a thynnu’r ffiled fach allan (defnyddiwch hon ar gyfer pryd tro-ffrio). Torrwch y ffesant mewn dull pili-pala trwy ddefnyddio cyllell yn fflat i lawr ymyl y frest i’w hagor fel llyfr. Rhowch frest y ffesant rhwng 2 ddalen o haenen lynu neu bapur gwrthsaim a’i tharo gyda rholbren nes ei bod tua 1cm o drwch. Tynnwch y papur i ffwrdd a’i sesno â halen a phupur. Ysgeintiwch y ddwy ochr gyda’r blawd plaen gan ysgwyd unrhyw ormodedd i ffwrdd.

Yn syml

Curwch yr wy mewn powlen fas a chymysgu’r teim, y lemwn a’r briwsion bara ar blât. Trochwch y ffesant yn yr wy ar y ddwy ochr ac yna gorchuddiwch yn y briwsion bara. Toddwch y menyn mewn padell ffrio a choginiwch y sgalopau dros wres canolig am 3-4 munud bob ochr nes eu bod yn frown euraidd, gan eu brasteru gyda’r menyn yn achlysurol.

To serve

Gweinwch gyda sglodion popty, colslo a darn o lemon neu gydag wy wedi’i ffrio ar ei ben. Efallai y byddwch yn dewis gwneud byrger ffesant a’i roi mewn bynsen brioche wedi’i thostio.