Stêc cig carw gyda saws medd mwyar duon

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 25 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

1 sialótsyn

2 lwy fwrdd olew had rêp Blodyn Aur

4 merywen, wedi’u malu

1 oren

100g mwyar duon

100ml medd mwyar duon Afon Mêl

1 llwy fwrdd sinsir ffres wedi’i gratio

1 llwy de jeli cyrens cochion

2 stêc cig carw

15g menyn Cymreig

Dull

I ddechrau

Gwnewch y saws trwy dorri’r sialóts yn fân a chynhesu un llwy fwrdd o olew mewn padell fach dros wres canolig. Ychwanegwch y sialóts a’u coginio am tua 6 munud nes eu bod wedi meddalu.

Yn y cyfamser

Crafwch groen yr oren, gwasgu’r sudd ac ychwanegu’r ddau at y sialóts ynghyd â’r aeron meryw, mwyar duon, sinsir a medd a’u coginio am tua 5 munud nes bod y mwyar duon yn dechrau meddalu. Lleihewch y gwres ac ychwanegwch y jeli cyrens cochion yna blaswch a sesnwch gyda halen, pupur, a choginio am 5 munud arall. Rhowch o’r neilltu tra byddwch yn coginio’r stêcs.

Yn syml

Rhowch halen a phupur ar y stêcs a chynhesu padell ffrio dros wres canolig i boeth. Yna ychwanegwch weddill yr olew a’r menyn ac ar ôl iddo doddi coginiwch y stêcs am 3 munud ar y ddwy ochr ar gyfer cig canolig. Arllwyswch unrhyw fraster dros ben i ffwrdd, ychwanegwch y saws i’r badell, a’i ailgynhesu am ychydig funudau.

I weini

Gweinwch y stêc wedi’i sleisio os dymunwch, ynghyd â’r saws a thatws stwnsh mwstard a brocoli wedi’i stemio neu cavolo nero.