Tsili cig carw a ffa du

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 1 awr 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

500g briwgig carw

1 x 400g tun ffa du

1 winwnsyn mawr, wedi’i blicio a’i sleisio

3 ewin garlleg wedi’u minsio

2 lwy fwrdd purée tomato

2 x 400g tun tomatos cyfan

1 llwy de powdr neu haenau tsili

1 llwy de cwmin mâl

1 llwy de coriander mâl

1 llwy de paprica mwg

250ml stoc cig eidion neu lysiau

2 lwy fwrdd dŵr mwg Halen Môn (dewisol)

Dull

I ddechrau

Cynheswch 2 lwy fwrdd o olew llysiau mewn padell fawr a ffrio’r winwnsyn nes ei fod yn feddal. Ychwanegwch y briwgig carw a’i goginio nes ei fod wedi brownio drosto, gan ei dorri i fyny gyda llwy. Ychwanegwch y garlleg a’r sbeisys a choginio am ychydig funudau.

Yn syml

Ychwanegwch y tomatos, y purée a’r stoc a mudferwch am 45 munud. Yna ychwanegwch y ffa a choginio am 15 munud arall nes bod y saws wedi tewychu. Ychwanegwch y dŵr mwg a chymysgu’r cyfan.

I weini

Rhowch y cyfan mewn powlenni neu ar blatiau mawr a’i weini gyda reis a hufen sur.