Wellington Cig Carw

  • Amser paratoi 50 mun
  • Amser coginio 1 awr 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

600g lwyn cig carw wedi’i docio

1 llwy fwrdd olew llysiau

Pupur a halen

50g menyn

1 sialotsyn mawr, wedi’i dorri’n fân

6 sleisen Ham Caerfyrddin PGI

250g madarch castan

30g madarch porcini sych

2 ewin garlleg, wedi’u malu

25g menyn hallt Cymreig

1 llwy fwrdd dail teim ffres wedi’u torri’n fân

1 wy wedi’i guro

375g crwst pwff menyn parod

Dull

I ddechrau

Rhwbiwch y cig carw gyda’r olew a’i sesno’n dda. Cynheswch badell ffrio fawr dros wres uchel, ychwanegwch y cig carw a’i serio ar bob ochr am tua 5-7 munud, nes ei fod yn frown euraidd. Tynnwch oddi ar y gwres a’i drosglwyddo i rac gwifren i oeri.

Yn y cyfamser

Mwydwch y madarch porcini mewn 200ml o ddŵr berwedig nes eu bod wedi meddalu (tua 20 munud). Tynnwch nhw allan o’r hylif, eu gwasgu’n sych ac yna eu torri’n fân, cadwch yr hylif mwydo. Torrwch y madarch yn fân neu rhowch nhw mewn prosesydd bwyd nes eu bod wedi’u torri’n fân.

Nesaf

Cynheswch y menyn mewn padell ffrio fawr, ychwanegwch y garlleg a’r madarch wedi’u torri gan gynnwys y porcini. Sesnwch ac ychwanegu’r teim wedi’i dorri. Gadewch bopeth i goginio nes bod y dŵr wedi anweddu (tua 20 munud). Gadewch y cyfan i oeri’n llwyr a chadwch chwarter y madarch ar gyfer y saws.

Yn syml

Gosodwch 3 dalen fawr o cling ffilm, yn gorgyffwrdd ar arwyneb gwaith. Rhowch Ham Caerfyrddin ar ei ben, gan orgyffwrdd â’r ymylon i wneud un ddalen ddigon mawr i lapio’r cig. Taenwch y cymysgedd madarch dros yr ham yna gosodwch y cig ar ei ben a’i wasgaru gyda gweddill y cymysgedd madarch.

Yna

Rholiwch yr ham o amgylch y cig carw gan ddefnyddio’r cling ffilm, ei lapio’n dynn ac yna ei oeri am 15 munud er mwyn rhoi cyfle iddo galedu.

Ar arwyneb â blawd arno, rholiwch y crwst yn sgwâr neu’n betryal sy’n ddigon mawr i lapio’r ffiled – tua 35cm sgwâr. Tociwch i’w dacluso a rholiwch ymylon yr ochrau uno ychydig yn deneuach. Brwsiwch yr ymylon gyda’r wy wedi’i guro yna tynnwch y cling ffilm oddi ar y cig carw a’i osod yng nghanol y crwst.

Nesaf

Lapiwch y crwst ar hyd y cig, gan orgyffwrdd ychydig wrth yr uniad. Plygwch bob pen fel parsel a’i drosglwyddo i hambwrdd pobi wedi’i iro’n ysgafn gydag ochr yr uniad i lawr. Rholiwch unrhyw grwst sy’n weddill allan a thorrwch siapiau i’w addurno.

Yn olaf

Brwsiwch y Wellington gyda’r wy a phwyswch ar yr addurniadau gan frwsio eto gyda’r golch wy. Oerwch am 20 munud (neu hyd at 12 awr os dymunwch).

Cynheswch y popty ymlaen llaw i 220C/200C ffan/Nwy marc 6 a chynheswch hambwrdd pobi am 5 munud. Leiniwch yr hambwrdd pobi â phapur gwrthsaim a gosodwch y parsel cig carw ar ei ben.

Pobwch am 35 munud ar gyfer cig canolig a hirach ar gyfer cig wedi’i goginio’n dda.

I weini

Tynnwch allan o’r popty a’i adael i orffwys am 10 munud cyn ei sleisio a’i weini gyda relish llugaeron ac oren.