Nachos tsili cig carw

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 20 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

Hanner y tsili cig carw (gweler y rysáit)

8 tortillas corn meddal neu baced o rai parod

2 lwy de paprica

1-2 lwy fwrdd puprynnau Jalapeno

75g caws cheddar wedi’i gratio

2 lwy fwrdd hufen sur

Coriander ffres

Dull

I ddechrau

Paratowch y tsili cig carw yn ôl y rysáit.

Yna

Coginiwch y tortillas trwy eu torri yn eu hanner, yna torrwch bob hanner yn 4 triongl. Gosodwch ar hambwrdd pobi, ysgeintio ychydig o olew a phaprica drostynt yna eu pobi mewn popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw i 180C/160C ffan/Nwy 4 am 5-8 munud nes eu bod yn euraidd. Trowch bob un a phobwch ar yr ochr arall nes eu bod yn grimp. Tynnwch nhw allan a’u rhoi mewn dysgl bopty fawr.

Yn syml

Rhowch y tsili drosto. Rhowch y caws wedi’i gratio a’r jalapenos wedi’u sleisio ar ei ben a’i roi o dan gril poeth am 5-8 munud nes bod y caws wedi toddi.

I weini

Rhowch ychydig o hufen sur drosto a’i addurno â choriander ffres wedi’i dorri cyn ei weini. Gallwch hefyd ychwanegu ychydig o salsa tomato a guacamole.