Pryd pob selsig helgig a gwrd

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 35 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

8 selsigen helgig

350g gwrd wedi’i baratoi (wedi’i blicio a’i dorri’n ddarnau 6cm)

2 winwnsyn coch wedi’u plicio a’u torri’n 8 talp

1 llwy fwrdd haenau tsili

1 llwy fwrdd hadau cwmin

1 bylb garlleg cyfan

5 sbrigyn teim

2 lwy fwrdd olew had rêp

200g tomatos bach

Dull

I ddechrau

Cynheswch y popty i 200C/180C ffan/Nwy 6 yna rhowch y selsig, y gwrd a’r winwns mewn tun rhostio bas. Rhannwch y garlleg yn ewinedd unigol a’i ychwanegu i’r tun heb ei blicio. Arllwyswch yr olew drosto, gwasgarwch y sbeisys a’r teim drosto, a’i sesno gyda halen môr a phupur.

Yn syml

Rhostiwch y cyfan yn y popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw am 15 munud yna trowch y selsig a’r llysiau a’u dychwelyd i’r popty am 20 munud arall gan ychwanegu’r tomatos yn y 10 munud olaf o goginio.

I weini

Rhannwch ar 4 plât neu bowlen a gweinwch gyda thatws pob neu salad gwyrdd.